PARTÏON PLANT

Rydyn ni wrth ein bodd â’r parti da ym Mharc Antur Eryri! Beth am roi antur pen-blwydd go iawn i’ch criw hyfryd? Rydym yn teilwra pecynnau ein partïon plant yn addas ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a gweithgareddau.

DEWISWCH EICH GWEITHGAREDD!

Rydym yn cynnig anturiaethau parti â thema i blant a phobl ifanc o bob oed.

CHWARAE MEDDAL

Yn addas ar gyfer plant bach a phlant iau – yn dilyn chwarae meddal, ceir te dathlu yn  ein hystafell parti. Mae’r gweithgaredd yn parhau am 60 munud, ac yna bwyd a dathliad yn un o’n hystafelloedd parti â thema. Oed 2 +.

PARTI SYRFFIO

Ffordd gyffrous a hwyliog i’ch plentyn ddathlu ei ddiwrnod arbennig, ac un bythgofiadwy. Mae’r pwyslais ar gael amser gwych ar y tonnau gyda’u ffrindiau sy’n fois y tonnau! Mae’r gweithgaredd am 90 munud, yna bwyd a dathliad yn un o’n hystafelloedd parti thema. Oed 5 +.

 

 

 

ADRENALIN DAN DO

Antur pen-blwydd gwefreiddiol a ysbrydolir gan fyd natur! Cofrestrwch ar gyfer waliau dringo, ogofa artiffisial, llwybr parkour Ninja a chwrs ymosod yn yr awyr wedi’i rwydo. A beth am orffen y ciciau pen-blwydd gan wibio ar draws ein lagŵn syrffio? Mae’r gweithgaredd yn parhau am 60 neu 90 munud, ac yna bydd bwyd a dathliad yn un o’n stafelloedd parti â thema. Oed 5 +.

YSTAFELLOEDD PARTI

Mae gennym dair ystafell parti â thema i fod yn lleoliad ar gyfer eich parti. Bydd ein gwesteiwyr cyfeillgar yn gwneud popeth i sicrhau bod eich parti yn achlysur hapus, llawn hwyl gyda’r ffwdan leiaf i chi. Mae cost eich parti yn cynnwys dewisiadau bwyd poeth neu oer, bydd trefnydd y parti yn dod â’r gacen a’r canhwyllau.

FFONIWCH NI AR  01492 353123 NEU LLENWCH EIN FFURFLEN YMHOLIADAU

CALL US ON OR FILL IN OUR ENQUIRY FORM

  • Our events team will be in touch to discuss your requirements and plan your perfect day.

Wave forecast: perfect - every 90 seconds!

What people think of us?

4.5/5 – Trip Advisor

4.5/5 – Facebook reviews

4.6/5 – Google reviews

8.6/10 – Booking.com

 

Adventure Parc Snowdonia, Conway Road, Dolgarrog, Conwy, LL32 8QE

© Adventure Parc Snowdonia Ltd trading as Surf Snowdonia and Adventure Parc Snowdonia. Adventure Parc Snowdonia Ltd is a company registered in England and Wales with company number 8220978. Registered office: 21 Oakland House, Hope Carr Road, Leigh, Lancashire, WN7 3ET

TripAdvisor
Armed Forces Covenant
Welsh Tourist Board