Mae Parc Antur Eryri yn lleoliad i ddigwyddiadau gyda thomenni o ‘waw ffactor’ – o ddrama a rhuo’r tonnau mewndirol i gefndir godidog ein tirwedd ysblennydd. Mae ein cyfleusterau unigryw yn golygu ein bod yn gallu darparu ar gyfer digwyddiadau go ryfeddol – o lansiadau corfforaethol syfrdanol a phartïon preifat i gystadlaethau yn y lagŵn cyfan neu yn y stadiwm.
Mae ein llety arlwyo a chyfforddus o’r radd flaenaf yn golygu y gallwn gynnig y pecyn un stop cyflawn i chi a’ch gwesteion. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod â digwyddiad i’r lagŵn neu ddefnyddio Parc Antur Eryri fel lleoliad ffilm, neu ar gyfer parti preifat neu lansiad corfforaethol yna cysylltwch â’r tîm i drafod eich cynlluniau.
Mae ein hanturiaethau yn berffaith ar gyfer merched a bechgyn anturus sydd eisiau dewis amgen i'r parti traddodiadol.
O wersi syrffio i ogofa dan do, waliau dringo a weiren wib i feicio mynydd a cherdded ceunentydd, mae ein hanturiaethau wedi'u cynllunio i fywiogi, cyffroi ac ysgogi'ch tîm.
Mae ein teithlenni strwythuredig yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd, i'w hannog i fagu hyder ac i herio eu ffiniau mewn awyrgylch hwyliog a chyffrous.