Mae ein lagŵn mewndirol yn cynnig amgylchedd diogel, dan reolaeth lle y gall plant ddysgu mewn grŵp llawn hwyl. Mae gwersi’n cynnwys 30 munud yn ein hacademi syrffio yn dysgu am ddiogelwch dŵr, safle’r corff, sefyll i fyny a chwympo oddi ar fwrdd. Ar ôl i’ch plentyn fynd yn y dŵr, bydd yn padlo allan i un o’n baeau dechreuwyr i ddala’i donnau cyntaf. Byddan nhw’n treulio ychydig dan awr yn y dŵr – sef, hyd at 18 o donnau gwyn y wers. Uchafswm o chwe dysgwr i bob bae dechreuwr.
CYFRANIAD RHIENI
Ar gyfer plant 5-7 oed, mae’n RHAID i oedolyn nad yw’n syrffio fod yn y dŵr gyda phob plentyn. Mae siwtiau gwlyb oedolion ar gael yn ddi-dâl.
Prisio oriau allfrig
£40.00
Llogi bwrdd syrffio’n gynwysedig
Llogi siwt wlyb £6
Prisiau oriau brig
£45
Llogi bwrdd syrffio’n gynwysedig
Llogi siwt wlyb £6
BOOK YOUR Child Lesson
From: £40.00
Our fun, structured surf lessons encourage healthy lifestyles and help children to become confident, considerate surfers.